Croeso i Straeon Mynwent Wrecsam, lle i rannu a darganfod hanesion am y fynwent, y bobl sydd wedi’u claddu yno a threftadaeth ardal Wrecsam.
Mae Cyngor Wrecsam, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn eich gwahodd i archwilio’r Fynwent a’r wefan ac i ychwanegu eich straeon eich hun drwy glicio ar ‘Ychwanegwch eich Stori’. Does yr un stori’n rhy fach! Gallwch hefyd rannu eich ffotograffau. Bydd pawb sy’n cyfrannu yn cael eu cydnabod a bydd eu straeon ar gael er mwynhad a difyrrwch pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd ymhell i’r dyfodol.
Mae’r prosiect yn rhan o atgyweiriad Mynwent Wrecsam, lle sydd â’i hanes diddorol ei hun, ond sydd hefyd yn ymestyn i Wrecsam yn ei gyfanrwydd. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys Wrecsam Oes Fictoria, traddodiadau lleol, hanes y gymuned Bwylaidd a mwy.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!