Y Fynwent
Mae Mynwent Wrecsam yn ymestyn dros ardal o 7.2 hectar ar ymyl orllewinol tref Wrecsam, rhwng y B5099 a’r A515. Fe’i rhennir yn rhan Fictoraidd a rhan fwy modern gyda llwybrau mynediad yn eu gwahanu. Glaswellt yw arwyneb y fynwent gan fwyaf gyda'r beddau yn yr hen ran yn rhai cwrbyn a’r rhannau mwy diweddar wedi’u gosod allan mewn rhesi.
Mae’r fynwent ar gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol Cymru. Wrth y fynedfa i’r fynwent mae dau Adeilad Rhestredig Gradd II, y porthdy a’r capel. Mae’r rheiliau a phileri’r fynwent wedi’u rhestru ar wahân. Mae Clawdd Wat, heneb gofrestredig, yn croesi’r safle gan ddilyn llinell un o’r llwybrau mewnol.
Mae ymylon deheuol a dwyreiniol y safle wedi’u hamgylchynu â thai, gyda choleg i’r gogledd a rheilffordd ac ystâd ddiwydiannol i’r gorllewin.
Cafodd adeilad y Capeli ei adnewyddu yn 2017. Mae’r Capel dwyreiniol yn awr yn dderbynfa ac ardal ymchwil sy’n croesawu’r cyhoedd i ddod i ddarganfod mwy am y fynwent, y beddau a hanes teuluol. Defnyddir y Capel gorllewinol ar gyfer gwasanaethau, digwyddiadau, ymweliadau grŵp ac i ddibenion addysgol. Mae’r Porthdy’n cael ei rentu’n breifat. Mae’r fynwent ar agor i’r cyhoedd rhwng 10am a 4pm yn y gaeaf, a rhwng 10am a 6pm yn ystod yr haf.
Os ydych yn chwilio am wybodaeth am gladdedigaethau, ewch i wefan Cyngor Wrecsam neu ffoniwch 01978 292048.
Atgyweirio
Llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) i sicrhau nawdd Parciau ar Gyfer Pobl Cronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn diogelu ac adnewyddu Mynwent Fictoraidd Wrecsam. Nod y prosiect oedd diogelu adeiladau a strwythurau rhestredig a chadw a sicrhau’r defnydd cynaliadwy o’r dirwedd hanesyddol
Roedd y prosiect yn cynnwys rhaglen o weithgareddau a dehongliad newydd, gan gynnwys y wefan hon, sy’n galluogi pobl i ddysgu am hanes y fynwent a’r bobl sydd wedi eu claddu yno.
Delweddau © Archifau Wrecsam ac Astudiaethau Lleol.