Mynwent Wrecsam yw man gorffwys mwy na 1200 o Bwyliaid, 40 ohonynt yn aelodau o luoedd arfog Gwlad Pwyl, gyda’u beddau’n cael eu cynnal gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Roedd llawer ohonynt yn allweddol yn hanes cenedlaethol Gwlad Pwyl, a’u bywydau’n datgelu gwybodaeth ddiddorol am eu diwylliant, y rhyfel a’r frwydr am annibyniaeth.
Mae llawer o Bwyliaid adnabyddus a nodedig wedi’u claddu yn y fynwent. Mae’r arysgrifau ar lawer o’r cerrig beddau’n dangos fod y sawl sydd wedi’u claddu yn y fan honno wedi ennill gwobrau clodwiw megis y Virtuti Militari, anrhydedd milwrol pennaf Gwlad Pwyl, y Groes Annibyniaeth a’r Groes am Wroldeb. Mae Jan Pilsudski (1876 - 1950) wedi’i gladdu yma, sef aelod blaenllaw o lywodraeth Gwlad Pwyl a frwydrodd dros famwlad annibynnol. Ei frawd hŷn oedd Józef Pilsudski, chwyldroadwr Pwylaidd a gyhoeddodd Gwlad Pwyl yn wladwriaeth annibynnol yn 1918 ac sy’n cael ei ystyried yn dad y Wlad Pwyl fodern.
Pam felly y claddwyd cymaint o Bwyliaid mewn mynwent yng Nghymru? Yn ystod yr Ail Ryfel Byd trechwyd y Fyddin Bwylaidd gan fyddinoedd Hitler a Stalin, ond daliodd y milwyr ati i frwydro ochr yn ochr â’u cynghreiriaid, Prydain a Ffrainc. Erbyn diwedd y Rhyfel roedd Gwlad Pwyl wedi’i dinistrio a disgynnodd o dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd, gan ddod yn rhan o Floc Comiwnyddol Dwyrain Ewrop. Dewisodd y rhan fwyaf o bobl Bwylaidd a oedd yn dal yng Ngorllewin Ewrop gadw’u rhyddid gan aros i frwydro dros Wlad Pwyl Annibynnol. Ffurfiodd y Fyddin Brydeinig y Corfflu Ailgyfanheddu Pwylaidd yn 1946 er mwyn gwneud y trosglwyddiad o fywyd milwrol i sifilaidd yn haws gan ailgyfanheddu’r rhai hynny oedd yn dymuno aros ym Mhrydain.
Yn yr un flwyddyn trosglwyddwyd tri ysbyty byddinol Americanaidd ym Mhenley, Llanerch Panna a Pharc Iscoyd i ddwylo’r Pwyliaid i’w defnyddio fel ysbytai maes. Roedd yr ysbytai’n gwasanaethu nid yn unig milwyr ond hefyd eu teuluoedd a'r gymuned Bwylaidd ehangach a oedd wedi ymgartrefu yn yr ardal ar ôl treulio blynyddoedd y rhyfel mewn gwersylloedd yn India, Dwyrain Affrica a’r Dwyrain Canol. Cafodd llawer o’r bobl hyn fywydau hir a’u man gorffwys terfynol oedd y fynwent hon.
Anrhydeddir pob un gan y Gofeb Ryfel Bwylaidd a godwyd yn 1989 ac arni arysgrif Pwylaidd, Cymraeg a Saesneg. Cynhelir gwasanaeth coffa blynyddol ger y gofeb.