Dyluniad y Fynwent

Yeaman Strachan

Ychydig dros 5 acer oedd main Mynwent Wrecsam  pan agorodd yn 1876. Ei dylunydd oedd Yeaman Strachan (1830-1891),  meithrinwr a garddwr lleol ac yn ddiweddarach, Maer Wrecsam. Unwaith yr agorwyd y Fynwent, Strachan oedd yn dal i ofalu am y tiroedd. Pan fu farw yn 61 oed, fe’i claddwyd yn y fynwent a ddatblygodd ac y gofalodd amdani.

Wrth fynd ati i ddylunio’r fynwent, ysbrydolwyd Strachan gan yr arddull ‘Gardenesque’, sef dull o arddio a ddyfeisiwyd gan ‘Dad yr Ardd Saesneg’, John Claudius Loudon (1783–1843), sy’n bwriadu i ardd fod yn waith celfyddydol a dyma’r rheswm dros y plannu geometrig, cydffurf. Dyluniwyd y llwybrau ar gyfer ‘cymryd yr aer’, sef yr hyn yr hoffai pobl oes Fictoria ei wneud – mynd allan i’r awyr agored am dro hamddenol.   Heddiw byddwch chi’n dilyn eu camre gan fod y llwybrau yn y fynwent yn dilyn y rhai gwrieddiol.

The Ground could not have been laid out with greater taste, and Mr Strachan who prepared the plan and carried it out, is deserving of the highest encomiums for his good taste. (Wrexham Guardian)

Yn 1886 prynwyd tir ychwanegol i’r dwyrain o’r fynwent gan ei hymestyn i Ffordd Empress.  Yn ddiweddarach gwnaed estyniadau pellach i’r gorllewin o Glawdd Wat.  Daliwyd ati i ymestyn y fynwent tua’r gorllewin hyd y 1960au pan gyrhaeddodd y ffin orllewinol bresennol.


Patrwm Claddu 

© Wrexham Archives and Local Studies

Yn ystod y 19G roedd dosbarth cymdeithasol yr un mor bwysig mewn marwolaeth ag yr oedd mewn bywyd. Roedd y fynwent felly wedi gosod yn ôl dosbarth cymdeithasol, gyda’r beddau ‘dosbarth 1af’ yn y plotiau yn wynebu ac yn sythlinol i’r llwybrau, ar gorneli amlwg ac ar dir uchel. Roedd y plotiau hyn yn aml wedi’u nodi a chofebion mawr ag arnynt gerfddelwau coeth ac ati.  Roedd y plotiau 2il ddosbarth yn union y tu ôl i’r rhai dosbarth 1af a’r rhai 3ydd dosbarth yn y canol. Yn y fynwent hefyd roedd beddau cyhoeddus ar gyfer pobl nad oeddent yn gallu fforddio prynu eu plot eu hunain ac yn aml roedd hyd at 20 o  bobl yn cael eu claddu mewn un bedd. Roedd y beddau hyn yn aml yn cael eu gadael heb eu marcio neu â dim ond carreg goffa fechan i nodi eu lleoliad.

Wrth i’r fynwent dyfu a llenwi, ni chadwyd at y patrwm claddu trefnus hwn ac yn aml iawn nid oedd plot a oedd yn ymddangos ar gynllun y fynwent yn bodoli mewn gwirionedd. Roedd claddedigaethau newydd yn digwydd lle bynnag yr oedd lle. 


Delwedd  © Archifau Wrecsam ac Astudiaethau Lleol