Agorodd Mynwent Wrecsam yn 1876. Y gladdedigaeth gyntaf oedd un merch fach un ar ddeg oed, Ethel Irene Pritchard. Ar fedd Ethel mae carreg gain ag arni ei henw hi a’i rhieni a disgynyddion eraill sydd wedi’u rhoi i orffwys gyda hi. Mae’r bedd trawiadol a’i leoliad ar y prif lwybr yn awgrymu fod y teulu hwn yn un cefnog.
Cliciwch yma i weld fideo Ysgol Gynradd Fictoria am Ethel Prichard.
Er y claddwyd Ethel yn y fynwent ym mis Ebrill 1976, nid oedd y fynwent bryd hynny wedi’i chwblhau nac wedi’i chysegru. Nid agorwyd y fynwent yn swyddogol tan y 3ydd o Orffennaf y flwyddyn honno gydag Esgob Llanelwy cysegru’r safle. Cynhaliwyd cinio dathliadol i bawb a fu’n gweithio ar y safle er mwyn nodi’r achlysur.
Cymerwch olwg ar y gofeb ag arni’r geiriau yma:
“In loving memory of John Prichard, Longfields, Wrexham, who died in Nov 1894 in the 56 year of his age. And of his youngest son Thomas Howard who died in Middelburg, Transvaal”.
Middleburg, De Affrica oedd y man ble adeiladodd y Prydeinwyr wersyll crynhoi yn ystod Rhyfel y Boer – sydd mae’n bosibl yn dweud rhywbeth wrthym am amgylchiadau marwolaeth Thomas.