Adeiladau’r Fynwent

Y Capeli

Yn union y tu mewn i gatiau’r Fynwent ar Ffordd Rhiwabon, y naill ochr a’r llall i’r fynedfa fwaog a’r tŵr a’r meindwr ar ei ben,  mae pâr o gapeli  Gothig. Fe’u dyluniwyd gan y  pensaer lleol William Turner ac maent wedi’u hadeiladu o amrywiol rwbel tywodfaen wyneb carreg gydag arwyneb o faen nadd, a tho llechi rhesog a thrum teracota. Mae’r capeli yn nodedig o fynwentydd oes Fictoria, ac yn darparu ar gyfer Anglicaniaid ac anghydffurfwyr: mae’r capel gorllewinol wedi’i gysegru, sy’n golygu ei fod wedi’i ddatgan yn gysegredig neu’n sanctaidd gan yr Eglwys Anglicanaidd; mae’r capel dwyreiniol yn anghydffurfiol sy’n golygu ei fod o’r enwad Protestannaidd ond nad yw'n cydymffurfio a llywodraeth yr Eglwys sefydledig.

Dynodwyd y capeli’n adeiladau rhestredig Gradd II yn 1995. Cyn y prosiect adnewyddu roeddent ar y Gofrestr Adeiladau Mewn Perygl oherwydd yr angen dybryd i’w gwella, ac roedd pryderon diogelwch yn golygu eu bod ar gau i’r cyhoedd. Gyda grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri mae’r capeli a’r porthdy wedi eu hadnewyddu .

Y Porthdy

Adeiladwyd y Porthdy sydd i’r dwyrain or brif fynedfa i fod yn gartref a swyddfa i uwch-arolygydd y fynwent. Mae’n adeilad dau lawr gyda swyddfa a dwy ystafell fyw ar y llawr gwaelod a dwy lofft ar yr ail lawr. Fe’i  adeiladwyd o amrywiol gerrig rwbel gydag arwyneb o faen nadd. Mae’r Porthdy, fel y capeli, yn adeilad rhestredig Gradd II, ac mae yn awr yn cael ei rentu’n breifat.