gan Zosia Beigus
Wedi i’r fyddin Bwylaidd gael ei threchu gan fyddinoedd Hitler a Stalin yn ystod ymgyrch mis Medi 1939, aeth gorchymyn allan i filwyr Gwlad Pwyl wneud eu ffordd gystal ag y gallent i Ffrainc lle ffurfiwyd Llywodraeth Bwylaidd mewn Alltudiaeth o dan arweiniad y Cadfridog Sikorski, a dechreuwyd rhoi byddin Bwylaidd at ei gilydd er mwyn parhau i frwydro ochr yn ochr â chynghreiriaid Gwlad Pwyl, Prydain a Ffrainc. Aeth y rhai hynny na wnaethant lwyddo i groesi’r Eidal er mwyn cyrraedd Ffrainc i Syria lle ffurfiwyd y Frigâd Reifflau Carpathian a frwydrodd yn ddiweddarach yn Tobruk. Cymerodd y lluoedd a ffurfiwyd yn Ffrainc ran yn yr ymgyrch Narvik aflwyddiannus, ac yn dilyn gorchfygiad Ffrainc yn 1940 fe’u hanfonwyd i Brydain.
Yn y cyfamser roedd Stalin, cynghreiriad Hitler, yn cyfnerthu ei afael ar y rhan o Wlad Pwyl yr oedd yr Undeb Sofietaidd wedi ei chyfeddiannu o dan bact Ribbentrop - Molotov, drwy alltudio i Siberia unrhyw un y credid y byddent yn debygol o wrthsefyll y cyfeddiant. Erbyn i Hitler dorri’r pact gyda’r Undeb Sofietaidd ac ymosod ar y wlad ar 22 Mehefin 1941, roedd bron i filiwn o Bwyliaid wedi’u halltudio. Yn sgil ymosodiad yr Almaen, ymunodd yr Undeb Sofietaidd ag ochr y cynghreiriaid gyda Phrydain, ac yn lletchwith braidd, Gwlad Pwyl. Llwyddodd llywodraeth Prydain i ffurfio pact rhwng Gwlad Pwyl a Rwsia ac o dan y pact hwnnw datganodd Stalin ‘amnest’ ar gyfer yr holl Bwyliaid mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel, charcharau NKVD ac mewn alltudiaeth Sofietaidd, a chytunodd i fyddin Bwylaidd gael ei ffurfio yn yr Undeb Sofietaidd; teithiodd pob un oedd wedi clywed am yr ‘amnest’ ac a oedd yn gallu gwneud hynny tua’r canolfannau recriwtio. Ar yr adeg hon roedd ar Brydain wir angen milwyr i ddiogelu’r meysydd olew yn y Dwyrain Canol ac felly, yn 1942, gadawodd y fyddin Bwylaidd a’i dibynyddion yr Undeb Sofietaidd i deithio i Persia (Iran heddiw) er mwyn derbyn offer o'r newydd a pharatoi am frwydr. Ar y cyd â’r unedau oedd eisoes yn Lloegr (Llynges, Awyrlu a Byddin Gwlad Pwyl a anfonwyd o Ffrainc) datblygodd Lluoedd Arfog Alltud Gwlad Pwyl i fod y trydydd llu ymladd mwyaf yn y Gorllewin ar ôl Prydain ac America. Roedd eu hanrhydeddau brwydr yn cynnwys Narvik, Brwydr Prydain, Brwydr yr Atlantig, Tobruk, Monte Cassino, Normandi ac Arnhem.
Rhoddwyd sifiliaid a lwyddodd i ddianc o'r Undeb Sofietaidd gyda’r fyddin mewn gwersylloedd mewn trefedigaethau Prydeinig yn India ac Affrica i aros am ddiwedd y Rhyfel a’r cyfle i ddychwelyd i’w cartrefi mewn Gwlad Pwyl annibynnol.
Yn anffodus, o ganlyniad i’r setliad gwleidyddol rhwng Roosevelt, Stalin a Churchill, pan ddaeth y rhyfel i ben, cyfeddiannodd y Sofietau ran ddwyreiniol Gwlad Pwyl a’i gwneud yn rhan o’r Undeb Sofietaidd, tra daeth gweddill y wlad yn wladwriaeth ‘byped’ gyda llywodraeth gomiwnyddol wedi’i gorfodi arni gan Rwsia. Dewisodd y mwyafrif helaeth o Bwyliaid wrthod y setliad hwn gan aros yn y Gorllewin lle'r oedd modd iddynt barhau i frwydro dros Wlad Pwyl annibynnol gan gynnal eu hiaith, eu diwylliant a’u traddodiadau ar gyfer yr adeg pan fyddent yn cael dychwelyd i’w mamwlad.
Ym mis Gorffennaf 1945, rhoddodd Llywodraeth Prydain y gorau i gydnabod y Llywodraeth Bwylaidd yn Llundain gan gydnabod yn hytrach gyfundrefn Warsaw a orfodwyd gan yr Undeb Sofietaidd, ac yn sgil hynny crëwyd problem ddyrys - beth i’w wneud â byddin, llynges ac awyrlu cynghreiriol mawr a oedd wedi brwydr ochr yn ochr â Phrydain drwy gydol y rhyfel ac a oedd yn dal i fod yn deyrngar i, ac o dan reolaeth llywodraeth nad oedd Prydain bellach yn ei chydnabod ac a oedd yn weithredol elyniaethus i’r llywodraeth yr oedd Prydain ac UDA wedi ei datgan yn llywodraeth gyfreithlon Gwlad Pwyl? Un o’r opsiynau oedd gorfodi aelodau’r lluoedd arfog Pwylaidd a’u dibynyddion i fynd yn ôl i Wlad Pwyl, ond fel y dywedwyd yn gryno iawn yn un o bapurau briffio’r cabinet ‘....it needs to be born in mind that the Polish army is currently the largest fighting force in Italy.’ Datryswyd y broblem mewn ffordd bragmataidd a Phrydeinig iawn. Crëwyd Corfflu Ailgyfanheddu Pwylaidd (PRC) fel rhan o Fyddin Prydain a chafodd y rhai hynny oedd yn dymuno aros yn y Gorllewin eu recriwtio i’r corfflu newydd hwn dros gyfnod eu hailgyfanheddiad a’u dadfyddiniad. Dewisodd tua 125,000 ymuno â’r PRC ac aros ym Mhrydain. Daeth eu teuluoedd a’u dibynyddion i Brydain i ymuno â nhw o ba bynnag le yr oedd hynt y rhyfel wedi eu hanfon, gan chwyddo’r niferoedd i ymhell dros 200,000.
Cadwodd yr Unedau PRC a ddaeth i Brydain eu strwythurau rheoli a’u trefniant Pwylaidd, gan gynnwys y Corfflu Meddygol a symudodd i ysbytai llawn offer a adeiladwyd gan fyddin yr UD yn ystod y rhyfel ac a oedd bellach yn ddiddefnydd. Yn 1846 daeth Penley a Pharc Iscoyd yn gartref i 3ydd Ysbyty Maes Gwlad Pwyl ac yn Llanerch Panna ymgartrefodd Ysbyty Maes Gwlad Pwyl Rhif 11. Sefydlwyd y ddau ysbyty yn 1941 yn yr Undeb Sofietaidd fel rhan o’r 2il Gorfflu Pwylaidd ac aethant gyda’r Corfflu ar ei siwrnai drwy’r dwyrain Canol, Monte Cassino a meysydd brwydrau eraill yr Eidal. Roedd yr ysbytai’n gwasanaethu nid yn unig y milwyr ond hefyd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach o sifiliaid Pwylaidd a oedd wedi treulio’r rhyfel mewn gwersylloedd ar gyfer Pwyliaid wedi’u dadleoli yn India, Dwyrain Affrica a’r Dwyrain Canol ac a ymgartrefodd yn y pen draw ym Mhrydain.