Trychineb Gwaith Glo Gresffordd
Roedd llawer o gyfoeth Wrecsam yn seiliedig ar y diwydiant glo, ond gyda’r diwydiant hwn hefyd daeth llawer o boen calon. Roedd cloddio glo yn waith peryglus dros ben, yn enwedig ar adeg pan nad oedd fawr ddim rheoliadau iechyd a diogelwch. Ym 1934 bu trychineb erchyll yng Ngwaith Glo Gresffordd pan laddwyd 266 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad. Oherwydd maint y tân a’r amodau ofnadwy yn y pwll ar ôl y ffrwydrad, dim ond 11 corff y llwyddwyd i ddod o hyd iddynt.
Hwn oedd un o drychinebau glofaol gwaethaf Prydain a chafodd effaith dybryd ar y dref, gan adael 164 o wragedd gweddw a 242 o blant heb dad. I lawer roedd hyn yn golygu colli eu prif incwm ac fe fyddent felly mewn amgylchiadau ariannol anodd dros ben.
Collodd rhai o'r glowyr a oroesodd eu swyddi oherwydd y bu’n rhaid cau’r darn o’r gwaith glo a ddinistriwyd. Caeodd y gwaith glo yn gyfan gwbl yn 1970 a chafodd ei ailddatblygu yn y 1980au fel ystâd ddiwydiannol. Yn 1982 codwyd cofeb i ddioddefwyr y trychineb heb fod yn bell o’r safle gwreiddiol.
Mae Henry Dennis, perchennog Gwaith Glo Gresffordd ddiwedd y 19G ac a fu farw ym 1906 wedi ei gladdu ym Mynwent Wrecsam.
Cliciwch yma i weld fideo am Henry Dennis gan ddisgyblion Ysgol Fictoria.