Wrecsam yn y Rhyfeloedd

Beddau Rhyfel y Gymanwlad

Beddau Rhyfel y Gymanwlad

Mae dros 100 o Feddau Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Wrecsam.  Byddwch yn gweld rhesi amlwg o gerrig beddau lle rhoddwyd milwyr i orffwys gyda’i gilydd, yn ogystal â beddau eraill wedi’u gwasgaru o amgylch y fynwent.  Mae’r beddau hyn yn cael eu gofalu amdanynt gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad sy’n anrhydeddu’r 1.7 miliwn o ddynion a merched o luoedd y Gymanwlad a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.  Fe sylwch fod y cerrig beddau i gyd yn debyg ac nad oes unrhyw wahaniaethu ar sail rheng filwrol na sifil, hil na chredo.  Mae’r rhan fwyaf wedi’u gwneud o garreg Portland. Ger y beddau rhyfel saif coeden geirios - symbol o freguster a harddwch bywyd yn y diwylliant Japaneaidd.  

Cofebion Rhyfel

Mae dwy gofeb ryfel ym Mynwent Wrecsam i goffa dinasyddion Wrecsam a fu farw mewn rhyfeloedd ac un ar gyfer personél Pwylaidd a frwydrodd ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae 64 o gladdedigaethau Rhyfel Byd Cyntaf ym Mynwent Wrecsam. Ni sefydlwyd plot dynodedig ar gyfer rhai fu farw mewn rhyfel tan yr Ail Ryfel Byd felly mae’r beddau hyn wedi’u gwasgaru ymhlith y beddau eraill.

Yr Ail Ryfel Byd

Dyma fan gorffwys llawer o ferched a dynion a fu farw wrth wasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth fynd i weld y beddau, sylwch ar y gwahanol genhedloedd ar y cerrig bedd.

Defnyddiwyd y fynwent gan Orsaf yr Awyrlu Brenhinol yn Borras. Collodd llawer eu bywydau yn ystod hyfforddiant.