Clwb Pêl-droed Wrecsam
Wedi’i sefydlu ym 1864, Clwb Pêl-droed Wrecsam yw'r clwb hynaf yng Nghymru a’r clwb proffesiynol 3ydd hynaf yn y byd. Cafodd y clwb ei sefydlu gan aelodau o Glwb Criced Wrecsam a oedd eisiau gêm i'w chwarae yn ystod y gaeaf. Chwaraeodd Wrecsam eu gêm gyntaf ym mis Hydref 1864 ar Gae Criced Sir Ddinbych (Y Cae Ras). Mae’r Clwb wedi chwarae yno byth ers hynny.
Wedi’i gladdu ym Mynwent Wrecsam mae Horace Elford Blew a gafodd ei eni yn Wrecsam yn 1878 ac aeth ymlaen i fod yn gefnwr Clwb Pêl-droed Wrecsam a Thîm Rhyngwladol Cymru. Yn 1906 trosglwyddodd i Glwb Manceinion Unedig gan chwarae iddyn nhw dim ond un waith cyn symud i Glwb Dinas Manceinion yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Unwaith eto dim ond un waith a chwaraeodd pan gymerodd le Rommy Kelso mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Bury. Er mai dim ond dwywaith yr ymddangosodd mewn gemau Cynghrair, cafodd 22 cap dros Gymru ac roedd yn ddewis awtomatig i’r tîm rhwng 1902 a 1909. Ar ôl ymddeol o bêl-droed aeth i mewn i wleidyddiaeth a chafodd ei ethol yn Faer Wrecsam yn 1923. Bu farw yn 1957.


Chwaraeodd (Bert) Ernest Foster yn gêm Gynghrair hanesyddol gyntaf Wrecsam yn erbyn Hartlepool United yn 1921. Cyn hynny, yn 17 oed, ymunodd â’r Gatrawd Gymreig a bu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr (1914-1918). Pan fu farw yn 1922, yn ddim ond 23 oed, fe’i claddwyd mewn bedd heb ei farcio ym Mynwent Wrecsam. Pan ddarganfuwyd hyn yn 2014, cododd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam arian i osod carreg ar ei fedd.