Yn ystod Oes Fictoria daeth angladdau’n achlysuron mawr, rhodresgar. Roedd y cyfoethog yn mynegi eu galar drwy drefnu angladdau costus a thalu am gofebion crand, ac roedd teuluoedd tlotach yn cael eu hannog i wario mwy nag yr oeddent yn gallu ei fforddio er mwyn osgoi stigma claddedigaeth tlotyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw y datblygwyd llawer o’r traddodiadau angladdol yr ydym yn eu dilyn heddiw er enghraifft gwisgo dillad tywyll, neu alarwisg. Dechreuodd rhai arferion a dywediadau ofergoelus yn ystod Oes Fictoria, er enghraifft yr arfer o roi eich llaw dros eich ceg wrth ddylyfu gên er mwyn rhwystro ysbrydion drwg rhag mynd i mewn i’ch corff. Roedd cyrff weithiau’n cael eu claddu gyda chadwyn yn sownd wrth gloch y tu allan i’r bedd yn eu llaw, rhag ofn iddyn nhw ddeffro ar ôl cael eu claddu. O hyn y daeth y dywediad Saesneg ‘Saved by the Bell’.
Daeth cofebion cain yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer y rhai oedd yn ddigon cefnog i’w fforddio. Defnyddiwyd llawer o wahanol fathau o garreg, weithiau wedi’i fewnforio o wledydd fel y Eidal. Roedd arddulliau cofebion cyfnod Fictoria yn amrywio gyda cherfiadau Gothig, croesau Celtaidd a chroesluniau lu. Mae cofebion diweddarach yn dueddol o fod yn llai cywrain ac wedi eu gwneud o farmor neu wenithfaen llwyd.
Mae cerrig bedd dechrau i ganol yr 20G yn llai cain ac wedi eu gwneud o farmor neu wenithfaen llwyd mewn cymysedd o arddulliau Gothig, Celf a Chrefft, Edwardaidd Clasurol neu Edwardaudd Baroc.
Mae cerrig bedd mwy modern fel arfer yn eithaf tebyg o ran maint ac ymddangosiad gyda thopiau crwm cymesurol neu anghymesurol ac mae gwenithfaen du yn dod yn fwyfwy poblogaidd.
Ym Mynwent Wrecsam, mae’r cofebion mwyaf a cheinaf yn gyffredinol i’w gweld ar y tir uchel ger Capel y Gorllewin, yn agos at y llwybrau. Yma y ceir beddau rhai o'r teuluoedd mwyaf cefnog. Nodwyd beddau pobl dlotach â cherrig llai, neu ddim byd o gwbl.