Diwydiant Lleol

Yn y 19G a dechrau’r 20G roedd Wrecsam yn fwrlwm o weithgaredd diwydiannol. Roedd pyllau glo, gweithfeydd dur, tanerdai a bragdai i gyd yn bwysig i’r economi lleol. Mae rhai o’r bobl fusnes a ffynnodd yn ystod y cyfnod hwn wedi’u claddu yn y fynwent gan gynnwys John Jones, bragwr, John Henry Darby, gweithiwr dur, Jane Birkett Evans a’i gŵr Evan, perchnogion Tanerdy Hugh Price  - Gwaith Lledr Abbot yn ddiweddarach.

Etifeddodd Jane Birkett Evans (Price gynt), a’i dau frawd Danerdy Hugh Price gan eu tad, Hugh Price yn 1884. Flwyddyn wedyn priododd Jane Evan Birkett Evans ac ymunodd Evan a’r busnes teuluol.  Wedi marwolaeth ei brawd Hugh, a phan adawodd ei brawd David y busnes, daeth Jane ac Evan yn gyd-berchnogion.  Yn 1903 fe wnaethant brynu cyn waith mwyn Zoedone ym Mhentre Felin am £2050 a symud y busnes lledr o Bridge Street i’r gwaith  mwyn. Daeth y busnes i gael ei adnabod fel Abbot Leather Works. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel ddiwedd y 1990au i wneud lle ar gyfer canolfan siopa y Werddon. Bu farw Jane ac Evan yn 1930 ac maent wedi’u claddu ym Mynwent Wrecsam. 

Gwaith Dur Brymbo 

© Wrexham Archives and Local StudiesEtifeddodd John Wilkinson a’i frawd William Waith Dur y Bers gan eu tad yn y 19G.  Aeth John ymlaen i sefydlu Gwaith Dur Brymbo yn 1792. Dinistriwyd y safle yn y Bers o ganlyniad yn bennaf i’r cystadlu chwyrn rhwng John a’i frawd.  Cafodd yr adeiladau oedd ar ôl – y felin, yr adeilad a oedd yn cynnwys y peiriant tyllu a'r odyn galch eu prydlesu i deulu a agorodd felin bapur am gyfnod byr. Mae adeilad y felin yn dal i sefyll heddiw yn Nyffryn Clywedog.  Bu farw John Wilkinson yn 1808 a daeth Henry Robertson yn bennaeth ar Waith Dur Brymbo.

Anogodd Robertson John Henry Darby i dreialu techneg newydd ym Mrymbo.  Y dechneg hon oedd gwneud dur drwy broses aelwyd agored a thrwy hyn daeth yn arloeswr mewn gwneud dur. Efallai bod ei ddyfeisgarwch wedi’i drosglwyddo iddo gan ei gyndaid, Abraham Darby a oedd hefyd wedi arloesi â thechnegau newydd.  Ystyrir Abraham Darby yn un o fawrion y Chwyldro Diwydiannol oherwydd bod ei ddull o gynhyrchu haearn bwrw mewn ffwrnais chwyth gyda glo golosg yn hytrach na siarcol yn gam mawr ymlaen o ran cynhyrchu haearn fel deunydd crai.  Bu farw John Henry Darby yn 1919 a chafodd ei gladdu ym mynwent Wrecsam.

Bragdy Island Green

Sefydlwyd Bragdy Island Green gan John Jones a’i Frawd William yn 1856.  Ar ôl marwolaeth William, daeth John yn un o gymwynaswyr mwyaf Wrecsam gan roi llawer o roddion i elusennau. Pan fu farw yn 1913 yn ei ewyllys roedd wedi gadael  £50,000 a  Roseneath House i  dalu am adeiladu ysbyty newydd yn Wrecsam.


Delwedd © Archifau Wrecsam ac Astudiaethau Lleol