Anghydffurfwyr

Mae Mynwent Wrecsam yn croesawu ymwelwyr ac yn darparu ar gyfer pobl o bob crefydd neu heb grefydd. Bu 37,000 o gladdedigaethau yma ers pan agorwyd y fynwent yn 1876.  Rhannwyd y tair acer wreiddiol yn gyfartal rhwng Anghydffurfwyr, Pabyddion ac Anglicaniaid. Anghydffurfwyr yw pobl o’r ffydd Brotestannaidd nad ydynt yn aelodau o’r  Eglwys Anglicanaidd.

Er i’r gladdedigaeth gyntaf ddigwydd ym mis Ebrill 1876, ni chysegrwyd y fynwent tan y mis Gorffennaf wedyn, - h.y. ei datgan yn sanctaidd neu’n gysegredig gan yr Eglwys Anglicanaidd. Agorwyd a chysegrwyd y fynwent yn swyddogol gan Esgob Llanelwy a bu cinio dathlu wedi hynny ar gyfer pawb a weithiodd ar y safle.

Mae’r pâr o gapeli yn drawiadol ac yn creu mynedfa ddeniadol i Fynwent Wrecsam.  Dyluniwyd y capeli a’r porthdy wrth y brif fynedfa yn Ffordd Rhiwabon gan y pensaer William Turner. Credir fod un o’r capeli ar gyfer anglicaniaid a’r llall ar gyfer anghydffurfwyr.