Agorodd Mynwent Wrecsam yn 1876 ar ddarn o dir a elwid bryd hynny’n Cae’r Cleifion. Mae 37,000 o bobl wedi’u rhoi i orffwys yma ac mae’r fynwent yn awr yn llawn. Dim ond mewn plotiau sydd eisoes yn bodoli y caniateir claddedigaethau yno heddiw.
Mae’r fynwent i gyd, gan gynnwys y capeli, y porthdy, y gatiau a’r rheiliau, yn strwythurau rhestredig Gradd II ac wedi’u diogelu oherwydd eu diddordeb hanesyddol arbennig. Wrth i chi archwilio’r fynwent byddwch yn dod ar draws rhan o Glawdd Wat, sydd yn heneb gofrestredig. Mae’r clawdd pridd 40 milltir o hyd hwn yn dilyn yn fras y ffin rhwng Cymru a Lloegr, o Foryd Afon Dyfrdwy i Maesbury yn Sir Amwythig. Mae llwybr y Clawdd drwy’r fynwent yn marcio’r ffin orllewinol wreiddiol
Un dirgelwch sydd eto i’w ddatrys yw hanes y tŵr coch llachar yn ymyl Ffordd y Bers. Fydd rhywun yn llwyddo un diwrnod i ddarganfod pam a phryd y cafodd ei adeiladu?
Diolch i fuddsoddiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd Mynwent Wrecsam gyda’i hadeiladau pwysig a’i thirwedd hardd yno i’w mwynhau gan genhedloedd i ddod.