Mynwent Newydd

Delweddau © Archifau Wrecsam ac Astudiaethau Lleol.

Angen mynwent newydd

Arweiniodd twf cyflym y boblogaeth ac ysbeidiau diddiwedd o afiechydon heintus at ddiffyg lle i gladdu pobl yn y rhan fwyaf o drefi yn y 19G ac nid oedd Wrecsam yn eithriad.  Roedd mynwent Eglwys y Plwyf, San Silyn yn llawn erbyn diwedd y 18G ac yn 1793  bu’n rhaid agor mynwent newydd yn Ffordd Rhuthun. Erbyn diwedd y 19G roedd y fynwent hon hefyd bron yn llawn.

Erbyn 1868, roedd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn cydnabod fod angen mynwent newydd.  Nid oedd yn dasg hawdd dod o hyd i safle addas ond ymhen hir a hwyr, yn 1874 prynwyd ychydig dros 5 acer o dir ar ochr orllewinol Ffordd Rhiwabon.

Roedd y tir hwn nid yn unig yn darparu lle gwir angenrheidiol ar gyfer claddu, roedd y fynwent hon hefyd ar gyfer anghydffurfwyr a Phabyddion. Cyn y 19G roedd claddedigaethau yn Wrecsam fel arfer yn digwydd ym mynwentydd Eglwysi. Ychydig iawn  o opsiynau oedd ar gael felly ar gyfer anghydffurfwyr  (y rhai hynny  nad oeddent yn cydymffurfio a llywodraethiad yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig) a phobl o grefyddau eraill, neu ddim crefydd. 

Safle’r Fynwent

Mae’r cofnod cynharaf o’r safle yn dyddio o 1535, yn Valor Ecclesiasticus Hari VIII – arolwg o gyllid Eglwys Lloegr a gynhaliwyd yn dilyn y Ddeddf Goruchafiaeth pan wnaeth Hari VIII ei hun yn bennaeth ar yr Eglwys. Roedd rhan o'r safle’n cael ei adnabod unwaith fel Cae’r Cleifion ac mae les gan esgob Llanelwy yn 1840 yn cyfeirio ato fel Tera Lepresoru,  ‘Tir y Gwahanglwyfion’. 


Delwedd ©Archifau Wrecsam ac Astudiaethau Lleol