Pêl-droedwyr

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Wedi’i sefydlu ym 1864, Clwb Pêl-droed Wrecsam yw'r clwb hynaf yng Nghymru a’r clwb proffesiynol 3ydd hynaf yn y byd. Cafodd y clwb ei sefydlu gan aelodau o Glwb Criced Wrecsam a oedd eisiau gêm i'w chwarae yn ystod y gaeaf.  Chwaraeodd Wrecsam eu gêm gyntaf ym mis Hydref 1864 ar Gae Criced Sir Ddinbych (Y Cae Ras).  Mae’r Clwb wedi chwarae yno byth ers hynny.

Wedi’i gladdu ym Mynwent Wrecsam mae Horace Elford Blew a gafodd ei eni yn Wrecsam yn 1878 ac aeth ymlaen i fod yn gefnwr Clwb Pêl-droed Wrecsam a Thîm Rhyngwladol Cymru. Yn 1906 trosglwyddodd i Glwb Manceinion Unedig gan chwarae iddyn nhw dim ond un waith cyn symud i Glwb Dinas Manceinion yn ddiweddarach y flwyddyn honno.  Unwaith eto dim ond un waith a chwaraeodd pan gymerodd le Rommy Kelso mewn gêm gyfartal 2-2  yn erbyn Bury.  Er mai dim ond dwywaith yr ymddangosodd mewn gemau  Cynghrair, cafodd 22 cap dros Gymru ac roedd yn ddewis awtomatig i’r tîm rhwng 1902 a 1909.  Ar ôl ymddeol o bêl-droed aeth i mewn i wleidyddiaeth a chafodd ei ethol yn Faer Wrecsam yn 1923.  Bu farw yn 1957. 


Tommy Bamford yw’r chwaraewr a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau erioed i Glwb Pêl-droed Wrecsam – 201 gôl mewn amrywiaeth o gystadlaethau rhwng 1928 a 1934. Yn ystod tymor 1933-1934 gosododd record arall i’r clwb sydd heb ei thorri hyd heddiw, gan sgorio 44 gôl mewn gemau cynghrair (a chyfanswm o 50 yn ystod y tymor).   Chwaraeodd ei gem ryngwladol Gyntaf dros Gymru ar 25 Hydref 1930 gan ennill 5 cap dros ei wlad.  Trosglwyddodd i Glwb Manceinion Unedig yn 1934 lle chwaraeodd gyfanswm o 109 o gemau a helpu’r clwb i ennill teitl Adran 2 yn nhymor 1935-36. Daeth yn ôl i Gymru yn 1938 i chwarae i Dref Abertawe.  Ymddeolodd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac aeth i weithio i waith dur lleol. Bu farw yn Wrecsam ym 1967 yn 62 oed ac mae wedi’i gladdu ym Mynwent Wrecsam. Mae un o’r canolfannau lletygarwch yn y Cae Ras wedi’i enwi ar ei ôl. 

Chwaraeodd (Bert) Ernest Foster yn gêm Gynghrair hanesyddol gyntaf Wrecsam yn erbyn Hartlepool United yn 1921. Cyn hynny, yn 17 oed, ymunodd â’r Gatrawd Gymreig a bu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr (1914-1918).  Pan fu farw yn 1922, yn ddim ond 23 oed, fe’i claddwyd mewn bedd heb ei farcio ym Mynwent Wrecsam.  Pan ddarganfuwyd hyn yn 2014, cododd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam arian i osod carreg ar ei fedd. 

Cliciwch yma i weld fideo Ysgol Fictoria am Bert Foster.